Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 23 Medi 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Keith Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Peter Black AC, Comisiynydd Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Richard Harries |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies yn sgil ei chyfrifoldebau fel un o Gomisiynwyr y Cynulliad (yn unol â RhS 18.9). Dirprwyodd Keith Davies ar ei rhan.
2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014
2.1 Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 – 2014, gan holi Peter Black AC, Comisiynydd, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad.
2.2 Cytunodd Claire Clancy:
· i ddarparu amlinelliad o'r camau a gymerwyd yn dilyn y digwyddiad twyll
· i ddarparu manylion pellach ynghylch llithriad y prosiect Adnoddau Dynol â'r Gyflogres
· i anfon darn o Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2013-14 sy'n dangos y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ôl gradd
· i ddarparu amlinelliad o raddau effeithlonrwydd ynni Tŷ Hywel a'r Senedd
· i ddarparu gwybodaeth fanwl am y costau TGCh ar gyfer 2013-14, gan gynnwys y costau rhedeg arferol a'r gwariant a wnaed fel rhan o'r prosiect i ddod â darpariaeth TGCh yn fewnol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad.